Am ragor o wybodaeth ynghylch ein systemau sain proffesiynol,
Sain a Goleuo
Mae gennym y system sain a goleuo mwyaf o ran maint a mwyaf datblygedig yng ngogledd Cymru ac ymfalchïwn yn ein gallu i fodloni eich holl anghenion sain a goleuo.
Mae ein systemau sain yn amrywio o becyn parti iPod syml ar gyfer eich cartref i osodiad ar raddfa fawr gyda chriw llwyfan a monitro unigol ar gyfer artist drwy iPad. Mae ein dewis o systemau golau yr un mor eang, o lamp syml ar stand gyda pheiriant mwg o bosibl, i'r holl sioe yn cynnwys effeithiau arbennig ar gyfer gigiau a digwyddiadau mawr, gan gynnwys LED.
Yn hollbwysig i'r cyfan mae ansawdd, a dyma pam ein bod yn defnyddio'r cyfarpar gorau ac yn cyflogi'r technegwyr mwyaf dawnus. Dyma sut ydym wedi llwyddo i fagu enw da ledled Cymru a thu hwnt.
Does dim un digwyddiad yn rhy fach nac yn rhy fawr. Felly, pa un ai a hoffech system sain a goleuo dan do neu yn yr awyr agored, ar gyfer sioe theatrig, digwyddiad codi arian, swper corfforaethol, diwrnod mabolgampau neu gyngerdd mawr, codwch y ffôn a chysylltwch â ni. Gallwn drafod eich digwyddiad a pha gyfarpar sydd ei angen arnoch er mwyn sicrhau llwyddiant ysgubol.