• Jun
    19
    2023

    #cefnogaethmad #madsupport

    Mad yn Rali @YFC.

  • Jun
    15
    2023

    Mad yn Prynu Rhwystr Rheoli Torf

    Gwybodaeth

    Y system rhwystr torf yw'r ateb perffaith ar gyfer rheoli torfeydd yn ddiogel. Heb fod angen fawr ddim o offer, gallwch leihau eich amser gwaith gyda'r rhwystrau hawdd eu gosod hyn. Wedi'u gwneud ag alwminiwm cadarn, mae'r rhwystr torf hwn yn bodloni meini prawf 11.2.1 o Strwythurau Dros Dro IStructE, wedi'u cymeradwyo gan Lloyds Testing Ltd.

    Mae tri chynnyrch ar gael; Syth, Cornel a Throli.

    Dimensiynau:

    Lled: 1000mm
    Uchder: 1205mm
    Dyfnder: 1250mm

    Pwysau: 30KG
    Llwyth wedi'i nodi yn ôl 4.5kN/m

    • Cysylltiad syml drwy nytiau a bolltiau
    • Mannau cysylltu rhwydd
    • Heb fod angen fawr ddim o offer
    • Allwedd 'Allen' i gloi'r rhannau yn eu lle
    • Cyfleusterau grisiau cefn, mynediad gweledol a chorfforol at y dorf
  • Feb
    5
    2023

    Mad yn prynu wal LED newydd

    Gwnaethom ddefnyddio'r adnodd hwn yr wythnos ddiwethaf yn lansiad stiwdios Ffilm newydd ar Ynys Môn, sef STIWDIOS FFILM ARIA yn Llangefni. Pob hwyl i chi gyda'r fenter newydd

  • Jan
    13
    2019

    MAD YN PRYNU CASGLIAD NEWYDD OHM CORA

    Yn ddiweddar, diweddarasom ein system seinydd i'r Casgliad OHM Cora. Defnyddiasom yr adnodd hwn am y tro cyntaf noswyl Nadolig yng Nghonwy lle daeth 8,000 o bobl i weld Siôn Corn ar waliau'r castell a'r sioe tân gwyllt enfawr am y bymthegfed tro i ni ddarparu'r system sain yno. Ni chawsom ein siomi ychwaith a chwedl y trefnwr, "rydych chi wedi mynd i'r lefel nesaf" - cytuno'n llwyr. Rydym ni'n barod amdani yn 2019.....

  • Jan
    13
    2019

    MAD YN SICRHAU RÔL RHEOLI CYNHYRCHIAD AR GYFER ROC ZIP WORLD AR 15 MEHEFIN

    Pleser gennym yw bod yn dîm rheoli cynhyrchiad ar gyfer y digwyddiad Roc Zip Word nesaf a gynhelir ar 15 Mehefin yn Chwarel Penrhyn, Bethesda, digwyddiad un diwrnod o gerddoriaeth fyw gyda rhai o brif enwau a bandiau'r Deyrnas Unedig. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth

  • Oct
    21
    2018

    PECYN SAIN A GOLEUO CALAN GAEAF NAWR AR GAEL - peiriant mwg - peiriant swigod - a goleuadau LED i'w llogi

    Ffoniwch nawr i logi cyfarpar ar gyfer Calan Gaeaf. Os hoffech chi ychwanegu hŵŵŵyl at eich parti, gallwn ni gynnig y canlynol i'w llogi - PEIRIANNAU MWG, PEIRIANNAU SWIGOD, GOLAU LED mewn unrhyw liw info@mad-sl.com

    www.mad-sl.com

  • Sep
    20
    2018

    Ar y gweill : #Madcooks #Cogyddionmad

    Gwasanaeth newydd gan Mad, adnoddau cegin cyflawn, yn berffaith ar gyfer gwyliau bwyd. A new service from Mad, a full demo kitchen perfect for Food festivals

  • Jul
    12
    2018

    www.gwylarall.com/

    Penwythnos yma yng Nghastell Caernarfon / this weekend @ Caernarfon Castle.

    #cefnogaethmad #madsupport

  • Jun
    4
    2018

    LLWYDDIANT #GŴYLGRUFF #BGT #SERENYDYFODOL

    AM NOSON WYCH YN AMLWCH I GEFNOGI GRUFF, DA'R HOGYN

  • May
    27
    2018

    Adborth gwych i Mad gan drefnwyr Dawns Haf

    "Digwyddiad arbennig, bois, gyda diolch i'ch cyfraniad a'ch creadigrwydd chi"