Am ragor o wybodaeth ynghylch ein systemau sain proffesiynol,
System Sain yn Unig
Rydym ni'n meddu ar y systemau sain mwyaf o ran maint a mwyaf datblygedig yng ngogledd Cymru, ond ar adegau mae system sain syml yn ddigon i ateb y galw!
Mae llogi un neu ddau microffon, gyda darllenfa neu hebddi, a seinyddion, yn un o'r amrywiol opsiynau sain. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw rhoi manylion ynglŷn â lle fydd y system sain yn cael ei defnyddio a'i phwrpas a gallwn ni ddewis yr union gyfarpar sydd ei hangen arnoch. Gallwn ddarparu cyfarpar heb gynnwys peiriannydd er mwyn cadw'ch costau yn isel neu rydym yn fwy na bodlon gosod y cyfan ar eich cyfer.
Gallwn hefyd ddarparu system sain awyr agored lawn ynghyd â thechnegwyr, peirianyddion sain a gwerthusiad iechyd a diogelwch neu system arena lawn.