Mae Sain a Goleuo MAD yn gwmni rheoli digwyddiadau technegol blaenllaw, yn cynnig popeth sydd ei angen ar eich digwyddiad.

Rydym yn gwbl gymwys ac yn meddu ar gyfoeth o brofiad a gwybodaeth dechnegol i fodloni anghenion eich digwyddiad. Yr hyn sy'n ein gwahaniaethu ni rhag eraill yw ein gwasanaeth unigryw a phersonol sy'n rhagori ar y gwasanaeth arferol gan y deallwn fod mynd ati i drefnu digwyddiad yn gallu bod yn brofiad anodd tu hwnt. Rydym yn hynod frwd dros ein gwaith a byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau nad ydych yn mynd dros eich cyllideb a bod y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac yn gofiadwy.

Rydym yma i'ch cynorthwyo felly cysylltwch â ni. Ymfalchïwn yn ein gallu i reoli digwyddiadau o'r dechrau un hyd y diwedd un. Os oes gennych chi syniad am ddigwyddiad, yna mae gennym ni'r profiad, y cyfarpar, y cysylltiadau, y tîm a'r wybodaeth i wireddu'ch syniad.